Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Dros Dro
Offerynnau Statudol gydag Adroddiadau Clir
16 Mehefin 2016
SL(5)-01 - Rheoliadau Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) 2016
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 a Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010. Mae'r diwygiadau'n ymwneud â pherfformiad ynni adeiladau, yn dirymu darpariaethau ynghylch tystysgrifau perfformiad ynni, sy'n cael eu cyfuno mewn mannau eraill, ac yn egluro darpariaethau ynghylch gofynion effeithlonrwydd ynni sylfaenol. Maent hefyd yn diweddaru'r rhestr o'r bobl sydd â hawl i roi tystysgrif i ddangos bod eu gwaith eu hunain yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu.
Deddfau Galluogi: Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972; Deddf Adeiladu 1984
Fe’u gwnaed ar: 20 Mai 2016
Fe'u gosodwyd ar: 27 Mai 2016
Yn dod i rym ar: 17 Mehefin 2016